5 awgrym hwylus i hwyluswyr

Croeso i #HwylusoHwyluswyr! Dyma bum awgrym a fydd yn arbed amser i hwyluswyr. Ysgrifennwyd yr awgrymiadau gan griw Cyfranogaeth Cymru i helpu hwyluswyr o bob lefel profiad i gael awgrymiadau hwylus.

Mae’r awgrymiadau hyn yn cynnwys technegau newydd, pethau rydym wedi’u dysgu, cynllunio a chyngor defnyddiol cyffredinol i unrhyw hwylusydd eu mwynhau.

Tanysgrifiwch ac ni fyddwch byth yn colli diweddariad gan Cyfranogaeth Cymru ac mi gewch eich awgrymiadau #HwylusoHwyluswyr yn syth i’ch mewnflwch.

1. Canolbwyntio ar y broses

Eich swyddogaeth chi fel hwylusydd yw canolbwyntio bob amser ar y broses. Peidiwch ag ymgolli wrth ystyried yr holl ganlyniadau posib. Mae gennych nod – helpu pobl i gyrraedd cytundeb ac fe fyddwch wedi dewis pa ddull y byddwch yn ei ddefnyddio i gyrraedd cytundeb. Glynwch at eich dull.

Alain Thomas facilitating at Participation Cymru

Cadwch ar y trywydd iawn drwy ganolbwyntio ar y broses

2. Defnyddio pethau y gellir eu hargraffu

Argraffwch set o sticeri gyda phenawdau neu ddiagramau cyffredin y byddwch yn eu defnyddio ar siart troi fel nad oes angen i chi eu hysgrifennu bob tro. Mae hyn o gymorth hefyd os nad yw’ch llawysgrifen gyda’r gorau!

•Dyw ysgrifennu ar siart troi ddim yn hawdd ar y gorau

Dyw ysgrifennu ar siart troi ddim yn hawdd ar y gorau

3. Cadw 5 techneg ar flaen eich meddwl

Enwch 5 dull cyfranogol yn sydyn o’ch cof… A ydych yn gallu? Mae cadw llond llaw o dechnegau ar flaen eich meddwl, y gallwch eu hegluro’n gryno heb orfod paratoi unrhyw beth cymhleth, yn arwydd o hwylusydd profiadol.

Pan fo amheuaeth, defnyddiwch post-its!

Pan fo amheuaeth, defnyddiwch post-its!

4. Cadw’ch eich holl ffeiliau swyddfa wedi’u cysoni mewn un lle

Anghofiwch am y dyddiau pan fyddwch yn argraffu’ch cynllun sesiwn, dim ond i sylweddoli’ch bod wedi’i adael ar yr argraffydd cyn gadael. Anghofiwch am gof bach na fydd yn gweithio ar yr hen gyfrifiadur llychlyd yn adeilad y sesiwn. Os ydych yn cadw’ch holl adnoddau hwyluso gan ddefnyddio gwasanaeth yn y cwmwl, a’i gysoni â’ch ffôn/llechen yna fe fyddwch bob amser yn gallu cael gafael arnynt – a bwrw eu bod wedi’u cysoni/lawrlwytho cyn i chi adael neu fod gennych gysylltiad dibynadwy â’r rhyngrwyd.

•Paratoi cyn sesiwn

Paratoi cyn sesiwn

5. Ei chadw’n syml

Dylai “ei chadw’ch syml” fod yn rheol ar gyfer popeth. Y ffordd orau o arbed amser fel ymarferydd prysur ym maes ymgysylltu â’r cyhoedd yw cadw’ch dulliau yn syml, yn glir ac yn gryno. Peidiwch â gorgymhlethu pethau onid yw’n hollol angenrheidiol.

Ei chadw’n syml

Beth yw’ch awgrymiadau gorau chithau i arbed amser? Rhowch wybod i ni drwy adael sylw i ymuno yn y sgwrs!

Cofiwch danysgrifio i Cyfranogaeth Cymru i gael rhagor o awgrymiadau Hwyluso! Mae gennym lwyth o adnoddau hwyluso eraill i’w rhannu â chi – peidiwch â cholli allan!

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .

Pin It on Pinterest