Sut i ddefnyddio’r Egwyddorion Cenedlaethol yn eich gwaith

Mae ein gweminar newydd yn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru a’r Pecyn Cymorth gwerthuso perthnasol.

National Principles Webinar Banner

Datblygwyd yr Egwyddorion gan Cyfranogaeth Cymru yn 2010 a’u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru yn 2011. Ers hynny mae dros 140 o fudiadau a chyrff cyhoeddus yng Nghymru wedi cytuno i’r egwyddorion gan fynd ati i’w defnyddio er mwyn ymgysylltu’n well â’r cyhoedd, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.

Bydd y gweminar hwn yn eich tywys drwy’r 10 egwyddor ac yn egluro sut y gallent fod o gymorth i chi a’ch mudiad.

Bydd y gweminar ymarferol hwn yn:

  • Cyflwyno’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd
  • Dangos eu defnydd ymarferol mewn gwaith ymgysylltu o bob math
  • Amlygu’r pecyn cymorth gwerthuso a sut i’w ddefnyddio.

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y sesiwn bydd cyfranogwyr:

  • Yn fwy ymwybodol o’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru
  • Wedi cael eu cyflwyno i’r Pecyn Cymorth gwerthuso a’r rhestr wirio
  • Wedi ystyried sut i ddefnyddio’r Egwyddorion yn eu gwaith.

Ar gyfer pwy mae'r gweminar

Anelir y gweminar hwn at fudiadau sydd am ddatblygu a chynyddu eu hymwybyddiaeth a’u gwybodaeth o sut i gynllunio proses ymgysylltu effeithiol.

Ble a phryd?

Am ddim i aelodau WCVA, neu £20.

Sylwch ar y gofynion technegol: i gael at y sesiwn bydd angen Flash Player (a ddylai fod ar eich cyfrifiadur/gliniadur yn barod) a chlustffonau neu seinydd. Os nad yw Flash Player wedi’i osod ar eich cyfrifiadur, mae modd ei lawrlwytho yma.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .

Pin It on Pinterest