Sut i gynllunio rhaglen o grwpiau ffocws – y profiad #TrafodCymunedau

Yn y blog hwn mae Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Cymunedau yn Gyntaf*, Russell Todd, yn egluro sut aeth o ati i gynllunio rhaglen o grwpiau ffocws gyda gweithlu Cymunedau yn Gyntaf, defnyddwyr y gwasanaeth a’r sector cydraddoldebau yng Nghymru fel rhan o’r broses ymgysylltu #TrafodCymunedau ynglŷn â dyfodol Cymunedau yn Gyntaf.

Yn dilyn cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant fis Hydref y llynedd ei fod yn “ystyried cael gwared ar y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn raddol”, dechreuodd y broses ymgysylltu gydag arolwg arlein ar gyfer y cyhoedd a phobl a oedd wedi cael mynediad at wasanaethau Cymunedau yn Gyntaf a’u prosiectau. Roedd cryn dipyn o anfodlonrwydd wedi bod ynghylch defnyddio’r dull hwn fel yr unig ddull i unigolion fynegi barn ar oblygiadau’r penderfyniad, gan ei fod o bosib yn eithrio’r rhai sydd heb fynediad i gyfleusterau TG neu heb y llythrennedd i ymateb i’r cwestiynau. Roedd hi’n anodd hefyd i staff Cymunedau yn Gyntaf ateb y cwestiynau fel cynllunydd/darparwr prosiect, ac nid defnyddiwr y gwasanaeth hwnnw

Gyda hyn mewn golwg, gofynnodd Llywodraeth Cymru i’r Gwasanaeth Cefnogi gynllunio rhaglen o grwpiau ffocws fyddai’n caniatáu trafodaethau cyfoethocach, manylach am agweddau ar Gymunedau yn Gyntaf a chymunedau cryf. Byddai’r grwpiau ffocws hefyd yn helpu i lywio’r Asesiad ehangach o’r Effaith ar Gydraddoldeb petai’r gwasanaeth yn cael ei ddiddymu. Mae gennym yr arbenigedd oherwydd i ni gefnogi clystyrau i gynnal grwpiau ffocws; rhedeg rhaglen o grwpiau ffocws gyda phobl o gartrefi di-waith oedd yn rhan o gyfnod peilot rhaglen Esgyn; a darparu hyfforddiant ar sut i gynllunio grwpiau ffocws.

Yn anffodus, yr hyn nad oedd gennym oedd llawer o amser: prin iawn oedd yr amser paratoi ac roedd tebygolrwydd i bethau redeg yn hwyr at gyfnod y Nadolig lle roedd nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal.

Gweld y rhestr o fudiadau sydd wedi cymeradwyo’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd

Gweld y rhestr o fudiadau sydd wedi cymeradwyo’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd

neud yn y gorffennol rydym wedi cadw at yr Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd. Yn unol â threfn rhifau’r fersiwn hawdd ei deall o’r Egwyddorion dyma ganllaw cam wrth gam ar yr hyn a wnaethom. Gobeithio y bydd o gymorth i chi:

Egwyddor 1 – A fydd yn gwneud gwahaniaeth?

Wrth gynllunio pethau roeddem yn teimlo bod angen i ni sicrhau nad oedd yr amserlen yn milwrio yn erbyn cynnal safon ac effeithiolrwydd wrth ymgysylltu. Roedd angen i ni ddangos parch i ddefnyddwyr y gwasanaeth a’r prosiectau. Defnyddwyr sy’n aml ddim yn cael eu clywed wrth iddyn nhw leisio eu barn. Fe benderfynwyd ein bod yn ddigon abl i geisio gwella’r broses ymgysylltu gyffredinol.  Dyma gwestiynau eraill a ystyriwyd gennym:

  • A fydd barn pobl yn cyfrannu at ba rai o weithgareddau Cymunedau yn Gyntaf fydd yn cael eu cadw yn y dull newydd ar gyfer creu cymunedau cryf?
  • A fydd unrhyw effaith negyddol o ganlyniad i ddiddymu Cymunedau yn Gyntaf yn cael eu lleddfu?

Byddai peidio cynnal grwpiau ffocws yn sicr o leihau gallu’r bobl i ddylanwadu ar y broses.

Egwyddor 2 – Gofynnwch i’r bobl iawn

Logos: Stonewall Cymru, Diverse Cymru, NPT Council, Race Council Cymru, Caerphilly Council,Cytun, Women Connect First  Rhaid oedd llunio rhaglen a oedd yn galluogi staff i drafod eu syniadau gan nad oedd yr holiadur arlein yn berthnasol i’w profiad. Yn ychwanegol at hynny roedd angen hefyd darparu rhyw fath o ‘ofod diogel’ i’r rhai hynny oedd yn mynd trwy gyfnod ansicr ac yn dibynnu ar Cymunedau yn Gyntaf. Roedd yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn gofyn i ni ymgysylltu â phobl o grwpiau nodweddion gwarchodedig; ac eto yn draddodiadol dyma sector nad yw’r Gwasanaeth Cefnogi wedi gweithio’n agos gydag ef. Fodd bynnag, mae ein gwerthoedd datblygu cymunedol yn golygu ein bod yn cydnabod yr angen i weithio gyda’r sefydliadau hynny, sy’n ymddiried yn y bobl a elwir yn ‘geidwaid y porth’. Felly, fe wnaethom ni gysylltu gyda Diverse Cymru, Stonewall Cymru, Cytûn, Women Connect First, Cyngor Hil Cymru a gwasanaethau ieuenctid Caerffili a Chastell-nedd Port Talbot.

Mae ein dyled yn fawr iawn i un o’n cydweithwyr yma’n Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) sef Dave Cook. Diolch iddo am ei waith yn hwyluso ein cysylltiad gyda Chynghrair Cydraddoldebau a Hawliau Dynol (EHRC), a hwylusir gan WCVA. Fe wnaeth hyn hi’n bosib i sicrhau mynediad ehangach ar draws y sector cydraddoldeb yng Nghymru. Yn ogystal, fe fynychodd nifer o weithiwr polisi weithdai fel cyflwyniad i gynnal y grwpiau ffocws gydag unigolion â nodweddion gwarchodedig.

Yn olaf,  er mwyn ategu’r arolwg ar-lein, fe wnaethom ni drefnu grwpiau ffocws gyda defnyddwyr gwasanaethau a phrosiectau Cymunedau yn Gyntaf. Fe wnaeth hyn ganiatáu i ni gael trafodaethau dyfnach am eu profiad o’r gwasanaeth a’r gefnogaeth y gwnaethon nhw ei dderbyn gan Cymunedau yn Gyntaf. Rydym yn ddyledus i’r clystyrau Cymunedau yn Gyntaf a chyrff eraill sy’n cynnig gwasanaethau ym Merthyr Tudful, Y Rhyl a Chasnewydd am eu cefnogaeth wrth drefnu’r cyfarfodydd hyn. Yng Nghasnewydd, fe wnaethom ni gyfarfod â phobl oedd yn cael eu cefnogi gan Ddull Bywoliaethau Cynaliadwy (gallwch ddarllen mwy am hyn yn y blog yma). Ar gyfer un o’r grwp ffocws yma roedd darpariaeth meithrinfa ar gael i gyfranogwyr.

Egwyddor 3 – Rhowch gyfle i bawb

‘Cyfle’ yn yr achos hwn oedd cael amser i gymryd rhan, gwneud pethau sy’n rhoi boddhad, newid ffurf y digwyddiad i gydweddu gyda’r rhai oedd yn bresennol ynghyd â manteisio ar gynnal cyfarfod yr un pryd a digwyddiad oedd yn cael ei gynnal yn barod. Gwnaethpwyd hyn i gyd heblaw am roi digon o amser i bobl; oherwydd yr amser oedd ar gael roedd nifer o’r grwpiau ffocws yn cael eu cynnal ar fyr rybudd. Fodd bynnag, roeddem wedi trefnu i anfon y cwestiynau allan o flaen llaw er mwyn helpu gyda’r paratoadau ac i egluro’r broses.

Yn Aberbargoed, wedi’i hwyluso gan Dynamix, llwyddodd Phill Burton i helpu grŵp o bobl ifanc i ddeall ystyr y term gwytnwch drwy ddefnyddio hen ffôn Nokia 3510 – rhywbeth fydd sicr yn aros yn y cof rwy’n siŵr!

Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth i glystyrau sy’n dymuno cynnal eu hymgynghoriad #TrafodCymunedau eu hunain yng Nghaerdydd, Casnewydd a’r Barri.

Egwyddor 4 – Cyd-weithiwch gyda sefydliadau eraill

Fel y nodwyd yn gynharach rydym wedi cyd-weithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau. Nid yn unig roedd y sefydliadau hyn mewn sefyllfa gref o fod wedi cydweithio gyda grwpiau penodol ond fe wnaeth hi’n haws i ni i gyflawni’r gwaith. Fe gynhaliwyd dros 20 grŵp ffocws mewn cyfnod o 7 wythnos gyda’r Nadolig yng nghanol y cyfan – cryn gamp yn wir! Roeddem ni’n hynod falch felly o allu comisiynu sefydliadau yn y trydydd sector- Cyngor Hil Cymru, Diverse Cymru a Women Connect First oedd yn cynnal grwpiau ffocws ar gyfer pobl hŷn, gweithwyr mudol a grŵp o ferched o gymunedau ethnig lleiafrifol.

Egwyddor 5 – Siaradwch ac ysgrifennwch yn glir

Dangosodd Phill yr egwyddor hon yn wych gyda’i hen ffôn Nokia, ond mewn  sawl ffordd rydym wedi gweithio’n galed i wneud yn siŵr fod pobl yn deall y wybodaeth. Fe wnaethon ni fynnu bod rhaid i ganllawiau’r pynciau trafod ganiatáu digon o amser ar gyfer trafodaeth am ddehongliad a diffiniad pobl ynghylch â ‘gwytnwch’. Roedd y cwestiynau ar gael yn ddwyieithog yn Saesneg ac yn Gymraeg. Gofynnwyd i arweinwyr y grwpiau ffocws ddarparu crynodeb syml o ddatganiad gwreiddiol Ysgrifennydd y Cabinet yn y Senedd er mwyn cynorthwyo dealltwriaeth pobl o’r hyn sy’n cael ei drafod. Mewn grŵp ffocws yn Wrecsam, defnyddiwyd cyfieithydd i helpu’r rhai oedd a’u hiaith gyntaf yn Bortiwgaleg. Mewn dau grŵp ffocws arall roedd staff cefnogi gan gynnwys staff o Cymunedau yn Gyntaf ar gael i roi cymorth i bobl i ddeall a chyfrannu i’r trafodaethau. Rydym yn cydnabod nad ydy grwpiau ffocws yn rhywbeth y mae pobl yn gyfarwydd â nhw ac yn teimlo’n hyderus i fod yn bresennol ac felly roeddem yn cyfeirio atyn nhw fel sgwrs.

Egwyddor 6 – Gwnewch bethau’n hawdd i bobl

Building BlocksMae hyn yn golygu cael gwared ar unrhyw rwystr sy’n atal pobl rhag cyfrannu: defnyddio cyfieithwyr a lleoliadau lleol a hygyrch gan weithio gyda / drwy sefydliadau cyfarwydd, a mynd â’r sgwrs atyn nhw, a dyna a wnaethon ni ymysg pethau eraill. Enghraifft arbennig iawn arall oedd y dulliau a fabwysiadwyd i gael pobl ifanc i gyfrannu.

Mewn dau ddigwyddiad ymgynghorol ym mwrdeistref Caerffili fe wnaeth Dynamix aralleirio’r cwestiwn “Ydych chi’n meddwl bydd y tair E ar eu pen eu hunain yn ddigon i greu ‘cymunedau cryf?” i:

“Beth sydd angen ei wneud i greu cymuned gref, gydnerth?”

Fe awgrymodd Phill fod angen i bobl ifanc yn llythrennol i ddefnyddio Lego i adeiladu eu cymuned. Roedd gweithwyr ieuenctid wrth law i helpu ar gyfer sbarduno trafod a chynnig syniadau a helpu gyda’r sillafu, ond roedd y bobl ifanc yn ddigon hyderus gan daflu eu hunain i ganol y gwaith.

Cafwyd enghraifft arall yn ardal Castell-nedd Port Talbot yn nyffryn Afan, lle’r oedd disgyblion ysgol uwchradd gyda sesiwn awr o hyd i rannu eu barn am gymunedau gwydn ac am eu barn nhw am ddiddymu Cymunedau yn Gyntaf. Gofalodd gweithwyr ieuenctid yr ysgol fod y diwrnod yn llifo’n esmwyth gan sicrhau trafodaeth effeithiol. Trafodaeth oedd hon nad oedd yn effeithio ar addysg arferol y disgyblion.

Egwyddor 7 – Helpwch bobl i ddysgu a datblygu

Myfyrdod beirniadol sydd wrth wraidd creu a datblygu cymuned effeithiol. Wrth edrych yn ôl efallai y gallem fod wedi gwneud mwy i greu dolen gyswllt gydag addysg fel rhan o’n rhaglen ar gyfer y grwpiau ffocws. Wedi dweud hynny, fe soniodd nifer o weithwyr Cymunedau yn Gyntaf nad oedden nhw wedi cymryd rhan mewn grŵp ffocws o’r blaen, ond nawr roedden nhw’n deall yn llawer iawn cliriach natur grwpiau ffocws a’u perthnasedd a’r angen i gymryd rhan o fewn eu clystyrau. Fe nodwyd gan nifer o gyfranogwyr y grwpiau ffocws ar gydraddoldeb eu bod wedi dysgu pethau newydd am Cymunedau yn Gyntaf:

“Doeddwn i ddim yn ymwybodol tan heddiw bod Cymunedau yn Gyntaf yn ariannu fy nosbarth Saesneg – os fydd y dosbarth hwnnw yn mynd yna byddaf mewn mwy o drwbl nag ydw i’n barod… doeddwn i ddim yn gwybod tan heddiw cymaint mae Cymunedau yn Gyntaf yn ei ariannu – fe fydd hyn yn ein heffeithio ni pan fydd y cyfan yn dod i ben.”

Egwyddor 8 – Amser ac Arian

Oherwydd yr amserlen fer, yr allwedd gyda grwpiau ffocws #TrafodCymunedau oedd gwneud y gorau o’r amser oedd gennym. Ar gyfer pob sesiwn o ddwy awr roedd y dyddiau dilynol yn angenrheidiol ar gyfer paratoi’r trawsgrifiad. Dydy hi ddim mor hawdd ag amserlennu nifer o grwpiau ffocws dros gyfnod o amser yn unig. Bu’n rhaid i ni reoli amserlen y rhai oedd yn cynnal y grŵp a’r rhai oedd yn paratoi’r trawsgrifiadau hefyd. Er ei bod hi’n bwysig cael cysondeb ar draws y grwpiau ffocws, ond gyda grŵp rhy fychan yn gyfrifol am y gwaith fyddai gennym ddim digon o ddwylo i’w gwasanaethu i gyd.

Rydym hefyd wedi cydnabod yr angen i dalu costau teithio, lluniaeth, gofal plant, cyfieithwyr a hurio lleoliadau lleol sy’n hawdd i’w cyrraedd, er mwyn sicrhau fod y mwyafrif o gyfranogwyr yn bresennol.

Egwyddor 9 – Egluro’r hyn sydd wedi digwydd wedi i chi gymryd rhan

Mae hwn yn un anodd. Wedi i ni gwblhau’r drafodaeth gyda phob grŵp ffocws, yna’r cam nesaf oedd egluro beth fyddai ein camau nesaf.

Bydd gan bobl eu barn eu hunain ar y dylanwad y mae eu sylwadau wedi’u cael. Cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Cabinet ym mis Chwefror y bydd yn dirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben yn raddol erbyn diwedd mis Mawrth 2018. Ymysg pethau eraill a amlygwyd gan y grwpiau ffocws a’r broses ymgysylltu ehangach, cyfeiriodd at yr effaith bosib wrth dynnu cyllid yn ôl oddi ar ddarparwyr trydydd sector.

Er bod y grwpiau wedi dod i ben, a bod y trawsgrifiadau wedi eu cyflwyno cyn y dyddiad cau yng nghanol mis Ionawr, dydy hynny ddim yn golygu fod y dasg wedi dod i ben. Mae cysylltu ystyrlon yn hawlio ein bod ni’n cadw mewn cysylltiad ymhell tu hwnt i’r gweithgareddau ‘wyneb yn wyneb’ a gynhaliwyd.

Egwyddor 10 – Gwella ar gyfer y tro nesaf

Mae’r blog hwn yn rhan o’r broses o adolygu myfyriol! Ond rydym ni wedi bod yn cynnal adolygiadau drwy gydol y rhaglen. Fe gyflwynon ni lunio adroddiad drafft yn dilyn gweithdy cydraddoldeb gyda’r EHRC. Fe wnaethom ni addasu’r canllawiau ar gyfer y pynciau trafod yn dilyn ein profiadau gyda’r staff yn ein grwpiau ffocws cyntaf. Fe rannodd yr hwyluswyr a’r cofnodwyr eu canfyddiadau gyda’i gilydd. Fe wnaethom ni adolygu data presenoldeb cydraddoldeb er mwyn sicrhau bod unrhyw fylchau demograffig yn cael eu hadnabod (wnaethon ni erioed wneud digon i ennyn barn pobl sy’n nodi eu bod yn hoyw, lesbiaidd, deurywiol neu’n drawsrywiol). Roeddem hefyd wedi cydnabod bod gennym ormod o bresenoldeb mewn clystyrau yn ninasoedd de Cymru ac o’r herwydd fe sicrhawyd y rhaglen fod mwy o bresenoldeb yn Wrecsam, Y Rhyl a Dyffryn Afan. Er bod yr wythnosau ychwanegol a sicrhawyd ym mis Ionawr 2017 ar gyfer trafod #TrafodCymunedau wedi bod o fudd mawr, byddem wedi hoffi mwy o amser i baratoi ac amserlen hirach ar gyfer ymgymryd â’r gwaith a chynnal mwy o grwpiau ffocws mewn rhannau eraill o Gymru.

Fodd bynnag, derbyniwyd y grwpiau ffocws ar gydraddoldeb yn gadarnhaol gan y cyfranogwyr gyda phob adroddiad yn gofyn am ychydig iawn neu dim cywiriadau sy’n dangos fod y cofnodwyr wedi cofnodi cyfraniadau’r bobl yn gywir.

Felly ar y cyfan, rydym yn falch iawn o’r hyn rydym ni wedi ei gyflawni.

Llawer o ddiolch i bawb fu’n helpu. Yn dilyn traddodiad fod pob araith arferol yn nodi fod gormod o bobl i’w henwi’n unigol i gydnabod ein diolch iddyn nhw.  Rwy’n gobeithio fodd bynnag eich bod chi i gyd yn gwybod pwy ydych chi a pha mor werthfawr oedd eich cyfraniad.

*Ers 31ain Mawrth 2018, mae Gwasanaeth Cefnogi Cymunedau yn Gyntaf wedi gorffen. Cysylltwch â help@wcva.org.uk os oes gennych ymholiad ynglŷn â hyn.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .

Pin It on Pinterest