6 thoughts on “Using Welsh language social media to engage in the public sector

  • Blog wych Dyfrig, fel arfer. Dwi’n ffeindio bod TweetDeck yn ddefnyddiol iawn am drydaru mewn Saesneg a Chymraeg achos mae’n cynnig cyfleuster i amseru trydarau o flaen llaw. Er enghraifft os nad ydych chi’n hollol hyderus gyda Chymraeg gallech chi sgwennu trydar yn Saesneg ac ei hamseru i ‘fynd mas’ deg munud wedyn ac rydych chi wedi prynu amser i’ch hunan i sgwennu rhywbeth yn Gymraeg heb ymbrysuro neu rhuthro amdani. Pan ydych chi’n barod gallech chi drefnu am y ddau drydar i ‘fynd mas’ ar yr un pryd, sy’n cyflwyno cyd-statws y ddwy iaith hefyd.

    Hefyd, fel rhywun sydd wedi dysgu Cymraeg ga i ddweud bod cyfrwng cymdeithasol wedi hwbio fy medru ac hyder mewn defnyddio Cymraeg fel iaith byw ac iaith gwaith

  • Diolch Russell! Rydyn ni’n defnyddio Hootsuite ar gyfer rhesymau tebyg hefyd – mae’n ddull arbennig o amseru gweithgaredd cyfryngau cymdeithasol.

    Er dydw i ddim yn dysgwr, rhaid i mi ddweud bod cyfryngau cymdeithasol wedi codi fy hyder i am ddefnyddio’r Gymraeg. Er rydw i’n siarad yn y Gymraeg o ddydd i ddydd, rydw i nawr yn ysgrifennu ynddo hefyd. Mae’r natur anffurfiol yn meddwl gallai ysgrifennu yn y ffordd rydw i’n siarad hefyd, yn hytrach na mewn Cymraeg cymhleth.

    Diolch am y sylw!

  • Diddorol. Dyma sylwadau/argymhellion am drydar yn ddwyieithog yng Nghymru: http://haciaith.com/2012/10/01/trydar-cymraeg-y-tair-c-cyfoes-cyfforddus-cymreig/

    Hefyd, sut mae’n cael ei wneud (yn dairiieithog) yn Catalonio a Gwlad y Basg: http://haciaith.com/2010/08/05/rheoli-defnydd-iaith-mewn-rhwydweithiau-cymdeithasol-gan-y-llywodraeth/

    Yn y ddwy achos, maen nhw’n cynnig addasu’r neges yn ddbynol ar iaith a ddim dim ond cyfieithu pob neges, ond bod cyfrifon ar wahan yn boblogaidd yng Nghymru ond un cyfrif yn Cat GyB.

    • Diolch yn fawr am rhain Rhys, mae nhw’n diddorol iawn! Fe wnaethon ni cysylltu gyda Comisiynydd y Gymraeg wrth ysgrifennu’r adroddiad, a dywedodd staff wrthom bod nhw’n argymhell bod rhaid i bobl cael y cyfle i gael trafodaethau di-dor yn y iaith o’i dewis, ond doedd dim argymhelliad penodol o amgylch y ffurf (un ffrwd neu dau). Mae’r dolenni yma yn bendant yn rhoi mwy i ni feddwl amdano! Diolch am cymryd yr amser i ymateb!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.

Pin It on Pinterest